Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Hydref 2018
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5164
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Siân Gwenllian AC Jenny Rathbone AC David Melding AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma Williams, Llywodraeth Cymru Huw Maguire, Llywodraeth Cymru Francois Samuel, Llywodraeth Cymru Andy Fry, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC, ac roedd David Melding AC yno fel dirprwy. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Bethan Sayed AC, Gareth Bennett AC a Jack Sargeant AC.
3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
· Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
· Francois Samuel, Pennaeth Rheoliadau Adeiladu, Rheoliad Adeiladu, Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru
· Andy Fry OBE, Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, Y Gangen Gwasanaethau Tân, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
· Huw Maguire, Uwch Reolwr Polisi, Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu nodyn ar resymeg Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r casgliad bod drysau blaen fflatiau yn cael eu hystyried fel rhannau cyffredin yr adeilad, at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân.
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
4.2.a Nododd y Pwyllgor Lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 6 a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar ei gasgliadau.